Esther 3

Haman yn cynllwynio i ladd yr Iddewon

1Rywbryd wedyn, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi dyrchafiad i ddyn o'r enw Haman fab Hammedatha, oedd yn dod o dras Agag. Cafodd ei benodi i swydd uwch na'r swyddogion eraill i gyd. 2Roedd y brenin wedi gorchymyn fod swyddogion eraill y llys brenhinol i fod i ymgrymu i Haman a dangos parch ato. Ond doedd Mordecai ddim am wneud hynny.

3Dyma rai o swyddogion eraill y brenin yn gofyn i Mordecai pam oedd e'n gwrthod ufuddhau i orchymyn y brenin. 4Er eu bod nhw wedi siarad gydag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e'n Iddew. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai'n cael ei ganiatáu.

5Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig. 6Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.

7Yn y mis cyntaf (sef Nisan
3:7 Nisan neu Abib, sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar
3:7 Adar sef deuddegfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Chwefror i ganol Mawrth.
).

8Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn. 9Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

10Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon. 11A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”

12Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma bopeth wnaeth Haman ei orchymyn yn cael ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi eu selio gyda'i sêl-fodrwy e. 13Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'i lladd nhw i gyd – pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef mis Adar). 14Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth, er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw.

15Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi ei gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan.

Tra roedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân.

Copyright information for CYM